Public Health Practitioners
Applications are invited from public health workers across Wales to the Public Health Practitioner Portfolio Development Support Programme (2010-11). Through this programme practitioners will be able to access a range of support in developing portfolios of evidence against the UK Public Health Register’s (UKPHR) Public Health Practitioner (Draft) Standards for Registration.
Successful applicants will receive a range of support through CPD opportunities and mentoring including self-assessment, collating evidence and demonstrating competence.
A further breakdown of the programme and information on the application process can be found in the ‘Public Health Practitioner Portfolio Development Support Programme (2010-11) Guidance Document’ which can be downloaded along with an application form at https://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/.
Applications are welcome from public health practitioners from organisations across Wales.
Public Health Specialists
The Top-Up Support Programme is for public health professionals working at senior strategic levels. It provides six months support to help in the preparation of a defined specialist portfolio to be submitted to the UK Voluntary Register for Public Health Specialists.
A further breakdown of the support offered and information on the application process can be found in the ‘Top-Up Support Programme (2010-11) Guidance Document’ which can be downloaded along with an application form at https://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/.
Applications are welcome from public health professionals from organisations across Wales.
For further information please contact Kelly McFadyen (Professional and Organisational Development Manager) on 029 2082 7642 or by email POD@wales.nhs.uk.
Cymorth Datblygu Portffolio
Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd
Gwahoddir ceisiadau gan weithwyr iechyd y cyhoedd ar draws Cymru i Raglen Cymorth Datblygu Portffolio Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (2010-11). Trwy’r rhaglen hon bydd ymarferwyr yn gallu cael mynediad i ystod o gymorth o ran datblygu portffolios tystiolaeth yn erbyn Safonau Cofrestru (Drafft) Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Cofrestr Iechyd y Cyhoedd y DU (UKPHR).
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn ystod o gymorth trwy gyfleoedd DPP a mentora yn cynnwys hunanasesu, coladu tystiolaeth a dangos cymhwysedd.
Mae dadansoddiad pellach o’r rhaglen a gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael yn ‘Nogfen Ganllaw y Rhaglen Cymorth Datblygu Portffolio Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (2010-11)’ y gellir ei llwytho i lawr ynghyd â ffurflen gais yn https://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/.
Croesewir ceisiadau gan ymarferwyr iechyd y cyhoedd o sefydliadau ar draws Cymru.
Arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd
Mae’r Rhaglen Cymorth Ategol ar gyfer proffesiynolion iechyd y cyhoedd sy’n gweithio ar uwch lefelau strategol. Mae’n darparu cymorth am chwe mis i helpu i baratoi portffolio arbenigol wedi ei ddiffinio i’w gyflwyno i Gofrestr Gwirfoddol Arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.
Mae dadansoddiad pellach o’r cymorth sy’n cael ei gynnig a gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael yn ‘Nogfen Ganllaw y Rhaglen Cymorth Ategol (2010-11)’ y gellir ei llwytho i lawr ynghyd â ffurflen gais yn https://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/.
Croesewir ceisiadau gan broffesiynolion iechyd y cyhoedd o sefydliadau ar draws Cymru.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kelly McFadyen (Rheolwr Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol) ar 029 2082 7642 neu dros ebost Kelly.McFadyen@wales.nhs.uk.